R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau? OAQ(4)0229(NR)
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(4)0224(NR)
3. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod cwmnïau glo brig yn adfer y tir ar ôl cwblhau'r gwaith? OAQ(4)0220(NR)
4. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a chynyddu stociau sewin yn ein hafonydd? OAQ(4)0233(NR)W
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ymgynghoriad EIDCymru? OAQ(4)0228(NR)W
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynhyrchu ynni? OAQ(4)0225(NR)
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod bywyd gwyllt yng Nghymru? OAQ(4)0223(NR)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â threchu tlodi? OAQ(4)0226(NR)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithdrefnau cyfathrebu brys ar gyfer achosion iechyd anifeiliaid? OAQ(4)0232(NR)R
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)0230(NR)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i atal llifogydd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0218 (NR)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r darpariaethau presennol ar gyfer gorfodi trwyddedu morol yng Nghymru? OAQ(4)0227(NR)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith o fonitro hen weithfeydd mwyngloddio? OAQ(4)0221(NR)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd dŵr ymdrochi yn Nhrefdraeth, Sir Benfro? OAQ(4)0236(NR)W
15. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i adolygiad o nodyn cyngor technegol (TAN) 8? OAQ(4)0235(NR)
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ(4)0260(CTP)
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cysylltiad rhwng materion cydraddoldeb a thlodi? OAQ(4)0258(CTP)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thlodi yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0257(CTP)
4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0263 (CTP)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd gyda datblygwyr tai ynghylch y ddarpariaeth o dai fforddiadwy? OAQ(4)0265(CTP)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y data monitro diweddaraf ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Dechrau'n Deg? OAQ(4)0255(CTP)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o gymunedau y nodwyd y dylent gael cyllid drwy'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf cychwynnol sydd wedi cael eu codi allan o amddifadedd? OAQ(4)0254(CTP)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â chymunedau ffydd? OAQ(4)0252(CTP)
9. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl awdurdodau lleol yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o blant yr effeithir arnynt oherwydd bod eu rhieni yn y carchar? OAQ(4)0256(CTP)
10. Alun Ffred Jones (Arfon):Beth yw asesiad y Gweinidog o lwyddiant y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0250(CTP)W
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith banciau bwyd yng Nghymru? OAQ(4)0259(CTP)W
12. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi trafnidiaeth yn Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0249(CTP)
13. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig a ffydd yng Nghymru? OAQ(4)0261(CTP)
14. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Dechrau'n Deg? OAQ(4)0251(CTP)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am undebau credyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0247(CTP)